english | cymraeg
capital transport for our capital city

the Cardiff bus story

Dechreuodd y cyfan ym 1902, pan ddechreuodd Corfforaeth Caerdydd redeg tramiau trydan yn y ddinas rhwng Heol Casnewydd a chanol y ddinas. Roedd y Gorfforaeth wedi cymryd drosodd Cwmni preifat Tramffyrdd Caerdydd a oedd wedi rhedeg tramiau a bysiau a dynwyd gan geffylau ers 1870, er y bu gweithredwyr eraill yn rhedeg bysiau ceffylau yn yr ardal ers o leiaf 1845.

Tan 1943, roedd tocynnwyr yn cael eu cyflogi i gasglu'r taliadau, ond flwyddyn honno cafodd pob cerbyd tram ei addasu i system talu-wrth-esgyn heb docynnwr – yn debyg i fysiau modern heddiw. Yna byddech chi'n talu dim ond un hen geiniog i deithio unrhyw bellter. Ni chafodd unrhyw docynnau eu rhoi, ond ym 1949 aeth y pris i fyny gan ddimai. Parhaodd y tramiau drwodd i 1950, pan gawsant eu disodli o'r diwedd gan fysiau troli (bysiau a gymerodd eu p?er trydanol o linellau uwchben) a oedd wedi eu cyflwyno am y tro cyntaf ym 1942.

an early Cardiff tram

 

 tram cynnar Caerdydd

a fine post-war Bristol motorbus with the engine at the front and the entrance at the rear

Roedd Caerdydd yn anghyffredin am fod ganddi fysiau troli un llawr yn ogystal â rhai dau lawr, o ganlyniad i sawl pont isel yn ardal y dociau.

O 1962 ymlaen dechreuodd bysiau modur ddisodli'r trolïau, a rhedodd y bws troli olaf yng Nghaerdydd ym 1970. Roedd bysiau modur ar waith ers rhan gynnar yr 20fed ganrif hefyd. Byddai teithiau cynnar mewn bws modur wedi bod braidd yn anghysurus gan na chafodd teiars niwmatig eu gosod tan 1924, ac roedd y llawr uchaf ar agor i'r tywydd nes i doeau gael eu cyflwyno'n gyntaf ym 1925.

 bws modur braf Bryste ar ôl y rhyfel gyda'r injan ar y blaen a'r fynedfa yn y cefn

 

Cafodd pob math o wneuthuriadau eu prynu, ond o'r 1930au cynnar drwodd i ychydig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ffafriwyd y gwneuthurwr AEC, yr un cwmni a adeiladodd llawer o fysiau Llundain yn y dyddiau hynny.

 roedd y bysiau troli hyn yn ddelfrydol i symud y torfeydd mawr yn y 1950au cynnar

these long trolleybuses were ideal for shifting the large crowds in the early 1950s

 

the Cardiff bus story

a Volvo Ailsa, common in the fleet in the 1970s

Yn draddodiadol roedd bysiau yng Nghaerdydd yn rhuddgoch a hufen eu lliw, ond yn y 1970au newidiwyd hyn i oren a gwyn. Er i'r bysiau cyntaf 'gyrrwr yn unig' gael eu gweld mor bell yn ôl â 1923, yn y 1970au y gwelwyd hyn ar raddfa fawr, gyda llwybr Snowden Road yr un olaf i golli ei docynnwyr ym 1980.

Volvo Ailsa, a fu’n gyffredin yn y fflyd yn y 1970au

Er bod gan Gaerdydd fysiau bach cyn hyn, yn y 1980au y cyflymwyd ffemomen y bws mini, a gallai bysiau Clipper Caerdydd gael eu gweld dros y ddinas i gyd. Yn syniad da ar y pryd, yn fwy na thebyg, ond roedd y duedd yn ôl i fysiau mwy o faint yn anochel, ac yn ystod y 1990au enillodd y syniad o wneud bysiau'n haws i bawb eu defnyddio ei blwyf. Dechreuodd bysiau heb risiau – yr hyn rydyn ni'n ei alw'n 'llawr isel' – ddisodli'r hen fathau, ac erbyn hyn yng Nghaerdydd mae ein holl fysiau'n rhai llawr isel, hyd yn oed ein bysiau dau lawr diweddaraf.

a Renault minibus with body built by Northern Counties

 bws mini Renault gyda chorff a adeiladwyd gan Northern Counties

these Dennis Darts started the low-floor revolution

Gwelwyd bws caerdyd gwyrdd cyfarwydd yn gyntaf ym 1999, a phrynon ni'n bysiau hyblyg cyntaf yn 2006, gan ychwanegu tipyn o steil Ewropeaidd i'n prifddinas. Rydyn ni erebyn hyn yn cludo 100,000 o deithwyr bob dydd ar 3,000 o deithiau sy'n teithio 27,000 milltir. Mae hynny'n gyfartal â mynd i'r lleuad ac yn ôl 20 o weithiau bob blwyddyn! Mae bws Caerdydd yn brysurach nag erioed heddiw, gan gynnig cludiant penigamp i'n prifddinas.

 y Dennis Darts hyn a ddechreuodd y chwyldro llawr isel